Job 39

1Wyt ti'n gwybod pryd mae geifr mynydd yn cael eu geni?
Wyt ti wedi gwylio'r ceirw yn esgor ar rai bach?
2Wyt ti wedi cyfri'r misoedd tra maen nhw'n disgwyl?
Wyt ti'n gwybod pryd yn union maen nhw'n geni rhai bach,
3yn crymu wrth roi genedigaeth,
ac yn bwrw eu brych?
4Mae'r rhai bach yn tyfu'n iach, allan yng nghefn gwlad;
yna'n gadael y fam, a byth yn dod yn ôl.
5Pwy wnaeth ollwng yr asyn gwyllt,
a datod ei ffrwyn iddo fynd yn rhydd?
6Rhoi'r anialwch yn gartre iddo,
a'r tir diffaith yn lle iddo fyw.
7Y mae'n gwawdio twrw'r dre,
ac yn fyddar i floedd unrhyw feistr.
8Mae'n crwydro'r mynyddoedd am borfa,
yn chwilio am laswellt i'w fwyta.
9Fyddai'r ych gwyllt yn fodlon gweithio i ti,
ac aros dros nos wrth gafn bwydo?
10Alli di ei gadw yn y gwys gyda rhaff?
Fydd e'n dy ddilyn ac yn trin y tir?
11Alli di ddibynnu arno gan ei fod mor gryf,
a gadael iddo wneud dy waith caled yn dy le?
12Fyddet ti'n disgwyl iddo i ddod yn ôl
a chasglu dy rawn i'r llawr dyrnu?
13Mae adenydd yr estrys yn ysgwyd yn llawen;
ond does ganddi ddim plu i hedfan fel y garan!
14Mae hi'n dodwy ei hwyau ar lawr,
ac yn eu gadael i gynhesu ar y tywod,
15heb feddwl y gallen nhw gael eu sathru,
ac y gallai anifail gwyllt eu malu dan draed.
16Mae'n trin ei chywion yn greulon,
fel petaen nhw ddim yn perthyn iddi;
dydy hi'n poeni dim y gallai ei llafur fod yn ofer.
17Gadawodd Duw hi heb ddoethineb,
roddodd e ddim mymryn o ddeall iddi.
18Ond pan mae'n codi a dechrau rhedeg,
mae'n chwerthin am ben y ceffyl a'i farchog!
19Ai ti sy'n rhoi cryfder i geffyl?
Ai ti wisgodd ei wddf â'r mwng?
20Ai ti sy'n gwneud iddo neidio fel y locust,
a chreu dychryn wrth weryru?
21Mae'n curo llawr y dyffryn â'i garnau,
ac yn rhuthro'n frwd i'r frwydr.
22Does ganddo ddim ofn; does dim yn ei ddychryn;
dydy e ddim yn cilio oddi wrth y cleddyf.
23Mae llond cawell o saethau'n chwyrlïo heibio iddo,
a'r waywffon a'r cleddyf yn fflachio.
24Mae'n llawn cynnwrf, ac yn carlamu'n wyllt;
mae'n methu aros yn llonydd pan mae'r corn hwrdd
39:24 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
yn seinio.
25Mae'n synhwyro'r frwydr o bell;
mae'n gweryru wrth glywed y corn hwrdd,
a gwaedd swyddogion yn bloeddio gorchmynion.
26Ai dy ddoethineb di sy'n gwneud i'r hebog hedfan,
a lledu ei adenydd i droi tua'r de?
27Ai dy orchymyn di sy'n gwneud i'r fwltur hofran,
a gosod ei nyth ar y creigiau uchel?
28Mae'n byw ar y graig, lle mae'n treulio'r nos;
mae'r clogwyn yn gaer ddiogel iddo.
29Oddi yno mae'n chwilio am fwyd,
ac yn syllu arno o bell;
30bydd ei gywion yn llowcio gwaed.
Ble mae corff marw, mae'r fwltur yno.”
Copyright information for CYM